Colwyn Bay THI

Diwrnod Agored Ffordd yr Orsaf, Bae Colwyn

July 15, 2015

Mae Ffordd yr Orsaf, Bae Colwyn yn agor ei drysau i’r gymuned leol ddydd Mawrth 7 Gorffennaf.  Cynhelir nifer o weithgareddau gan sefydliadau a busnesau amrywiol ac mae gwahoddiad i bawb!

O weithdai busnes, boreau coffi ac arddangos ffilm a cherddoriaeth fyw, bydd Ffordd yr Orsaf yn arddangos y mentrau newydd sy’n digwydd yn y dref ynghyd â darparu gwybodaeth i bobl ynglŷn â sut y gallant gymryd rhan.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adfywio Bae Colwyn trwy raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid ac yn darparu dros £1 miliwn o gefnogaeth grant i gefnogi prosiect Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd.  Mae Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd yn cynorthwyo i hybu Bae Colwyn trwy amrywiaeth o brosiectau cyffrous, gan gynnwys adnewyddu The Station, tafarndy Fictoraidd Rhestredig Gradd II, a chynllun Siop Dros Dro i gynorthwyo pobl leol sy’n dechrau arni ym myd busnes.

Dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths:

“Rydym am i gymunedau ledled Cymru fod yn llefydd bywiog i fyw, gweithio a chymdeithasu ynddynt, gydag isadeiledd da ac economïau lleol cryf. Rwy’n falch ein bod wedi gallu cefnogi adnewyddu The Station a’r prosiect Siop Dros Dro, sy’n dod â bywyd newydd i Fae Colwyn ac yn adfywio calon y gymuned.

“Rwy’n annog pobl leol i gymryd rhan a dathlu’r sefydliadau a’r busnesau gwych sydd ar gael ar eu carreg drws!”

Dywedodd Judi Greenwood, Rheolwr Prosiect ar gyfer Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn: “Mae gwaith partneriaeth i gyfuno prosiectau yn ein cynorthwyo i gyflawni mwy ar gyfer Bae Colwyn. Mae digwyddiadau fel hyn yn uno’r gymuned ac yn galluogi pobl leol i fod yn falch o ganol eu tref.”

Rhwng 1pm – 6pm bydd adeilad The Station sydd wedi’i adnewyddu ar agor ac yn gwahodd pobl i weld arddangosiad o fideo treigl amser yn dangos cau The Central cyn ei agor ar ei newydd wedd fel The Station. Bydd y fideo’n cael ei ddangos yn yr ystafell ddigwyddiadau i fyny’r grisiau sydd wedi’i thrawsnewid i arddangos y nodweddion gwreiddiol. Bydd arddangosfa o luniau yn dangos hanes yr adeilad a’i le yn y dref. Y tafarndy nodedig hwn yw un o’r adeiladau cymunedol cyntaf a adeiladwyd ym Mae Colwyn ac mae’n dyddio o tua 1870.

Bydd Cymunedau yn Gyntaf Conwy yn agor eu drysau o 1pm ymlaen yn eu hadeilad newydd yn 22 Ffordd yr Orsaf. Yn ogystal â chynnal prynhawn coffi a chacen gyda’r holl elw’n mynd i Hosbis Dewi Sant, byddant wrth law i rannu’r holl ddigwyddiadau a’r rhaglenni diweddaraf sydd ar gael. Mae’r rhain yn cynnwys newyddion a diweddariadau ar grantiau cymunedol a chefnogaeth i sefydlu busnes.

Yn dilyn llwyddiant siop dros dro gyntaf Bae Colwyn yn rhif 24 Ffordd yr Orsaf, mae Cymunedau yn Gyntaf Conwy yn falch o lansio eu Siop Dros Dro nesaf yn 22 Ffordd yr Orsaf. Bydd masnachwyr eraill sydd wedi profi’r Siop Dros Dro yn flaenorol ac wedi datblygu i fod yn adwerthwyr llwyddiannus o ganlyniad i’r profion yn 24 Ffordd yr Orsaf yn bresennol i rannu eu straeon. Bydd cefnogaeth wrth law gan Dim ond y Busnes, prosiect partneriaeth rhwng Cymunedau yn Gyntaf Conwy a Gwasanaethau Busnes Affinity, sy’n gweithio gyda busnesau cyn-sefydlu a busnesau sydd newydd sefydlu yng Nghonwy.

Bydd Ghostbuskers, grŵp cerddoriaeth cymunedol Bae Colwyn yn chwarae cerddoriaeth fyw drwy gydol y dydd hefyd.

Yn olaf o 5.30pm-9pm yn Adeiladau’r Orsaf, Ffordd yr Orsaf, bydd cyfle i berchnogion busnes ddod i wrando ar un o arbenigwyr busnes arweiniol y DU, Kate Hardcastle, gyda’i chyflwyniad am newid busnes ‘Give Your Business Some Oomph’, sy’n archwilio’r ymarfer o Theatr Adwerthu. Yn cael ei gyflwyno o amgylch y byd, mae’n darparu cyngor i adwerthwyr a busnesau ynglŷn â defnyddio’r pum synnwyr i ddenu cwsmeriaid a chynyddu nifer yr ymwelwyr a’r elw. Cynhelir y gweithdy hwn gan Fusnes Cymru ac mae’n rhad ac am ddim i fusnesau ei fynychu ond mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol. Gallwch archebu lle trwy fynd ar wefan Busnes Cymru www.busnes.cymru.gov.uk a chwilio am ddigwyddiadau ym Mae Colwyn.

Cefnogir y digwyddiad gan Siambr Fasnach Colwyn a Thîm Tref Bae Colwyn.

Mae Teresa Carnall, Cadeirydd Siambr Fasnach Colwyn yn falch bod y sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd i amlygu’r gefnogaeth sydd ar gael . Dywedodd :

“Pan fyddwn yn gweithio ar y cyd, dyna pryd y mae pethau’n dechrau newid. Rwy’n teimlo bod Bae Colwyn yn dechrau cyfnod newydd o ddod â mentrau cymunedol a busnesau ynghyd i greu man cyffrous i fyw a gweithio ynddo. Er ein bod yn gwerthfawrogi bod llawer ar ôl i’w wneud, dim ond ein symud ymlaen y gall digwyddiadau fel hyn.“

 

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi