September 20, 2016
Mae gwefan Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn ar ei newydd-wedd, a ariannwyd gan Gynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn, wedi bod yn weithredol ers blwyddyn bellach ac mae’n ffynnu. Yn y flwyddyn ers lansio’r wefan, mae cynnydd o 3000 wedi bod yn nifer yr ymwelwyr. Diweddarwyd y wefan i gyd-fynd â’r ffordd y mae pobl bellach yn cael mynediad at y we, sydd gan amlaf ar eu ffonau. Mae’r wefan yn cael ei haddasu i gyd-fynd â’r teclyn a ddefnyddir er mwyn ei gwneud yn haws i bobl ei defnyddio ac i annog pobl i aros ac archwilio’r wefan. Mae’r llinell amser bellach yn nodwedd weithredol ac mae’n rhoi gwybodaeth am ddigwyddiadau mewn trefn gronolegol wrth i chi sgrolio i lawr y dudalen, ac mae’n galluogi ymwelwyr i ddewis gwahanol gyfnodau amser i’w harchwilio.
Bydd Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn yn parhau i ddatblygu’r wefan ac yn ychwanegu mwy o wybodaeth at y cynnwys. Gallwch weld y wefan newydd yma: http://colwynbayheritage.org.uk/?lang=cy
Categorïau
Archive
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl