February 15, 2017
Mae Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn wedi bod yn cydweithio â’r Ganolfan Adeiladu Naturiol a Chymunedau yn Gyntaf ar brosiect adeiladu â ffrâm goed, lle mae disgyblion wedi cael cyfle i adeiladu eu dosbarth eu hunain!
Adeiladodd y Ganolfan Adeiladu Naturiol ddarnau’r dosbarth o’r newydd, gydag offer pren arall; mae’r rhain yn addysgu’r disgyblion am adeiladu traddodiadol â ffrâm goed ac yn rhoi cyfle iddyn nhw roi tro arni a gweld ffrwyth eu llafur ymarferol.
Mae mathau gwahanol o bren i ddangos pa fath o goed y mae modd eu defnyddio ar gyfer gwahanol brosiectau adeiladu, ac mae adeiladu’r dosbarth yn herio eu sgiliau nhw hefyd, fel mesur a datrys ffracsiynau, onglau a phwysau.
Ysgol Maes Owen oedd yr ysgol gyntaf i gael tro ar adeiladu’r dosbarth, ac fe gawsant lawer o hwyl ac roedd y tywydd braf yn caniatáu iddyn nhw weithio y tu allan.
Dysgodd y plant am y pren, faint oedd oed y coed, am bren meddal a phren caled a pha goedyn i’w ddefnyddio wrth adeiladu tŷ. Roeddent wedi mwynhau paru rhifau Rhufeinig a rhoi onglau gyda’i gilydd hefyd, a defnyddio morthwylion pren, datrys beth oedd yn mynd i ble a chydweithio.
Categorïau
Archive
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl