March 7, 2017
Mae prosiect newydd wedi gweithio gyda phlant ar draws Bae Colwyn i ddatblygu gwaith celf ar gyfer hysbysfyrddau a dathlu adeiladau a nodweddion unigryw Bae Colwyn.
Gweithiodd Menter Treftadaeth Treflun Bae Colwyn gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’r artist lleol Mai Thomas, a gynhaliodd y sesiynau, i gynnig y cyfle hwn.
Aeth pobl ifanc 9 i 14 oed ar weithdai dau ddiwrnod, dan y teitl ‘Back To The Future’, a edrychodd ar archwilio pensaernïaeth canol tref Bae Colwyn drwy waith celf.
Cofnodwyd sylwadau a barn hefyd gan y bobl ifanc a oedd yn cymryd rhan, gyda sylwadau fel: “Rwy’n hoffi byw ym Mae Colwyn gan fod Hanes yn ffrwydro o’ch blaen chi ble bynnag rydych chi’n edrych.”
Cynhyrchodd y prosiect nifer o ddarnau o waith celf gwych, a bydd detholiad yn cael eu hystyried i’w harddangos ar fyrddau hysbysebu yn y dyfodol fel y rhai y mae disgwyl eu gosod o flaen 7 Ffordd Abergele, yr hen A&A Cash and Carry.
Caiff dioramâu, lle y darluniwyd sgets ar bapur olrhain neu asetyn eu gosod mewn blwch ar gromlin a’i oleuo o’r tu ôl.
Categorïau
Archive
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl