April 16, 2016
Gŵyl Pedwar Degau Bae Colwyn 2016
Roedd Menter Treftadaeth Treflun Bae Colwyn yn falch i gefnogi Gŵyl Pedwar Degau Bae Colwyn am yr ail flwyddyn yn olynol eleni. Roedd yr ŵyl deuddydd, nawr yn ei phumed blwyddyn wedi denu cannoedd o ymwelwyr o bell ac agos i fwynhau’r golygfeydd hiraethus a gweithgareddau.
Agorodd ‘Winston Churchill’ yr ŵyl ochr yn ochr â’r maer, Dr Sibani Roy a rhoddodd ‘George Formby’ berfformiadau ar y ddau ddiwrnod ynghyd â pherfformiadau eraill. Gallai pobl gael blas ar loches Anderson go iawn i gael teimlad o’r cyrchoedd awyr, roedd yna lawer o wisgoedd o’r 40au i’w gweld a hen eitemau ar werth i’r sawl oedd yn dymuno mynd ag ychydig o’r cyfnod gartref gyda nhw.
Daeth y rhai brwdfrydig â’u cerbydau milwrol i’w harddangos, gydag amrywiaeth o fodelau i bobl eu gweld. Ar y nos Sadwrn, cynhaliwyd dawns gyda cherddoriaeth draddodiadol ac ar y dydd Sul cynhaliwyd y frwydr flynyddol, cyfle gwych i weld cerbydau milwrol ar waith. Cynhaliodd Menter Treftadaeth Treflun Bae Colwyn arddangosfa o atgofion o’r dref a sgwrsio gydag ymwelwyr am eu hatgofion o orffennol y dref.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ŵyl y flwyddyn nesaf. Welwn ni chi yno!
Categorïau
Archive
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl