Ein Cyllidwyr

Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn defnyddio arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i helpu pobl ar draws y Deyrnas Unedig i archwilio, mwynhau a gwarchod y dreftadaeth y maent yn gofalu amdani.

Cadw

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru sy'n gweithio i gael amgylchedd hanesyddol hygyrch ac wedi ei ddiogelu yng Nghymru.

Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Dan arweiniad y Prif Weinidog, mae'n gweithio ar draws meysydd datganoledig sy'n cynnwys meysydd allweddol o fywyd cyhoeddus, fel iechyd, addysg a'r amgylchedd.

Cyngor Bwrdeistref Sirol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn darparu gwasanaethau mewn sir sydd â 111,400 o drigolion

Ein Partneriaid

Cymunedau yn Gyntaf

Rhaglen sy’n ceisio lleihau tlodi ac sydd wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru yw rhaglen ‘Cymunedau yn Gyntaf’ sy’n canolbwyntio ar gymunedau dan anfantais yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Bywyd y Bae

Mae Rhaglen Bywyd y Bae yn fwy na chynllun adfywio ffisegol - ei nod yw gwella a dwyn ynghyd yr holl bethau sy'n rhan o'n cymuned.

TAPE

Mae TAPE yn elusen celfyddydau a chyfryngau cymunedol yn Hen Golwyn. Mae TAPE yn gweithio i wneud y gorau o gyfleoedd i bobl o bob oed trwy brosiectau celfyddydau creadigol a’r cyfryngau.

Colwyn Bay Town Team

Mae Tîm Tref Bae Colwyn yn cynrychioli busnesau ar draws Bae Colwyn, ac yn cyfarfod pob mis i drafod materion yn ymwneud â'r dref.

Copyright © 2015 Colwyn Bay THI | All Rights Reserved | Web Design North Wales by Indever

Cookie a Preifatrwydd Polisi