Ymwelodd David Jones AS â’r ardal pan oedd yn blentyn ac mae wedi rhoi llun ac ysgrifennu ei atgof o ymweld â Bae Colwyn ar gyfer prosiect Llyfr Lloffion Bae Colwyn.
Meddai David Jones AS:
“Fy atgof cynharaf o Bae Colwyn oedd ymweld â fy mam pan oeddwn yn fachgen bach iawn.
“Roeddem yn aros yn Llandudno ar wyliau am wythnos. Un diwrnod, dywedodd fy mam wrthyf ei bod am fynd i Fae Colwyn oherwydd bod y siopau’n well yno.
“Aethom ar y tram o Landudno. Rhaid mai hon oedd y flwyddyn i’r gwasanaeth gau, ym 1956. Rwy’n cofio sefyll yn Ffordd yr Orsaf ac edrych i fyny ar adeiladau brics coch uchel. Roedd y stryd yn llawn o siopwyr ac roedd ffenestri’r siopau yn llawn nwyddau ar ddangos.
“Mae Ffordd yr Orsaf wedi gweld amseroedd anodd ers hynny ond rwy’n falch ei bod nawr yn gwella, gyda llawer o help gan ymdrechion adfywio’r Cyngor Bwrdeistref.”
Mewn Partneriaeth gyda
Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl