Colwyn Bay THI

Porters

Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn: Prosiect Hanfodol

Station Cwt & Porters

Gwaith adfer Adeilad Rhestredig Gradd II ac addasu yn gyfleuster aml-ddefnydd

Cyflwyniad

Targedwyd 41-43 Ffordd, oedd yn arfer cael ei adnabod fel ‘The Judge and Jury Bar’ (2011) gan Gynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn fel prosiect Hanfodol. Mae prosiectau hanfodol wedi eu clustnodi fel bod yn hanfodol ar gyfer llwyddiant prosiect Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn a chawsant eu dewis fel bod y rhai mwyaf niweidiol i’r Ardal Gadwraeth. Ystyriwyd bod eu hatgyweirio a’u dychwelyd i ddefnydd buddiol yn hanfodol bwysig yn y broses o newid agweddau a rhagdybiaethau am y dref.

Daeth diddordeb yn yr eiddo gan amrywiol ddatblygwyr posib i’r canlyniad nad oedd cynllun cyfun ar yr adeilad hwn yn fasnachol hyfyw. Y prif bryder oedd fod angen rhaglen ddwys er mwyn atal y defnydd achlysurol o’r adeilad fel bar lefel isel a chlwb nos ac osgoi unrhyw ddirywiad pellach.

Gweithiodd Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn gyda Menter Gymdeithasol CAIS oedd am fuddsoddi yn y dref ac oedd angen eiddo er mwyn ehangu eu mentrau busnes. Daeth Cais hefyd â llawer o arian cyfatebol i’r prosiect oedd yn golygu y byddai’r adeilad yn cael ei adnewyddu’n llwyr ar gyfer defnydd cynaliadwy yn y dyfodol.

Gwybodaeth Gefndirol

Adeiladwyd y Neuadd Ddinesig yn 1892 yng nghanol teras o adeiladau gan y Penseiri Booth, Chadwick a Porter. Ar y pryd roedd yn gartref i’r holl weinyddiaeth oedd ei angen ar gyfer tref Bae Colwyn, oedd yn tyfu’n sydyn, gan gynnwys swyddfeydd Banc Cenedlaethol a Thaleithiol Lloegr, Cyngor Sir Ddinbych (yn gyfrifol am Blismona), Cwmni Cyfyngedig Ystâd Bae Colwyn a Phwllycrochan (prif berchennog tir / ddatblygwr y Dref) a Bwrdd Lleol Bae Colwyn a Colwyn (rhagflaenydd y Cyngor lleol). Mae’r adeilad wedi newid ei ddefnydd yn aml ers hynny ac mae wedi bod yn siop ddisgownt ac amryw o fariau.

Mae’r adeilad wedi ei gofrestru fel Gradd II fel “enghraifft wych o’r ail brif gam o ddatblygiad Bae Colwyn fel cyrchfan a chanolfan fasnachol; datblygiad masnachol da o’i gyfnod ac mae rhythm bensaernïol gryf yn pwysleisio eiddo’r siop unigol tra’n cadw cymeriad trefol unedig cryf”

Bwriad cyffredinol y cynllun oedd sefydlu defnydd newydd arloesol ar gyfer yr adeilad gwag hwn. Roedd yn hanfodol fod y prosiect yn dod â’r gymuned ynghyd drwy ddarparu gofod defnyddiol, fyddai’n darparu cynnig ehangach yn y dref. Roedd hefyd yn fwriad darparu model ar gyfer prosiectau datblygu eraill a gweithredu fel catalydd ar gyfer adfywiad ehangach y dref.

Briff y Prosiect

Roedd y prosiect yn golygu trawsnewid y llawr gwaelod i bistro caffi cyfoes a thrawsnewid y lloriau uwch segur i weithdy a gofod swyddfa.

Nod briff y prosiect oedd:

Ffactorau Allweddol

Adeiladu

Gwaith Cadwraeth

Mae 41 a 43 Ffordd yr Orsaf yn Adeilad Rhestredig Gradd II o fewn Ardal Gadwraeth Bae Colwyn. Wedi ei chwblhau yn 1892, adeiladwyd y Neuadd Ddinesig mwyn bod yn gartref i Gyngor Sir Ddinbych, Banc Ceneldaethol a Thaleithiol Lloegr Cyf a Chwmni Ystâd Bae Colwyn a Phwllycrochan. Mae enwau trigolion gwreiddiol yr adeilad wedi eu harysgrifio ar baneli cerrig sydd wedi eu gosod yn y parapet.

Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, defnyddiwyd yr adeilad hefyd fel gorsaf heddlu a llys, fel y gellir ei weld o’r pâr o efynnau a’r fantol cyfiawnder yn y gwaith cerrig o amgylch y drws.

Dros y blynyddoedd arweiniodd diffyg cynnal a chadw a defnydd anaddas at ddirywiad yr adeilad, roedd darnau mawr o’r to ar goll ac roedd y blaen tywodfaen yn dirywio’n araf, yn ogystal â’r ffenestri gwreiddiol. Roedd rhai agoriadau ffenestri wedi eu cau â briciau hefyd.

Nid oedd y llawr gwaelod masnachol wedi ei ddefnyddio at bwrpas ers bron i 10 mlynedd ac roedd yn cael ei ddefnyddio yn achlysurol ar gyfer defnydd cyllideb isel fel bar a chlwb nos ond roedd wedi bod yn wag y rhan fwyaf o’r amser. Roedd y lloriau uchaf wedi eu gosod fel llety preswyl o dro i dro ond roeddynt hefyd wedi dirywio.

Mae atgyweirio ac adfer yr adeilad rhestredig allweddol hwn wedi cynnwys to newydd, atgyweirio’r tŵr a’r parapetau, ailwampio’r ffenestri gwreiddiol i gynnwys atgyweiriadau i’r gwydr lliw, ailosod y blaen siop gwreiddiol gan ddefnyddio lluniau hanesyddol a rhaglen o atgyweiriadau gwaith cerrig sylweddol gan gynnwys ailosod ffigyrau cerrig.
Yn ogystal â gwaith i adnewyddu’r gweddluniau allanol ac adfer nodweddion pensaernïol, ailwampiwyd y tu mewn hefyd er mwyn gwneud defnydd o ofod llawr gwag unwaith eto, gan greu gofod swyddfa ychwanegol.

Yn ystod y gwaith ar y safle darganfuwyd fod y gwaith cerrig mewn cyflwr gwael ac roedd angen rhaglen ddwys i’w adfer.

Addasu

Yr angen i ddarparu defnydd newydd ariannol hyfyw er mwyn cyllido’r atgyweirio a chynnal yr adeilad yn ogystal â chynnal yr adeiladwaith hanesyddol oedd y cymhelliant y tu nôl i’r cynllun newydd. Cyflawnwyd hyn drwy gynllunio lledlawr newydd i ddarparu llety swyddfa ychwanegol gyda lifft newydd i deithwyr.

Orielau

Cynt a Wedyn

Plac Cyflwynedig

Ffigyrau cerrig

Bistro caffi

Gweithdy a gofod swyddfa i fyny’r grisiau

Mewn Partneriaeth gyda

Hawlfraint © 2017 MTT Bae Colwyn| Cedwir Pob Hawl

Cookie a Preifatrwydd Polisi